Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2016
Amser: 09.08 -
09.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3942
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Jessica England (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 297KB) Gweld fel HTML (72KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ganlyniadau'r cynllun monitro traffig, yn ogystal â sylwadau'r deisebydd bryd hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro (a) effeithiolrwydd y gwasanaethau a chefnogaeth i blant ag awtistiaeth a'u rhieni, a (b) y canlyniadau a gyflawnwyd gan y cyllid a ddarperir; ac
· Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn am eu hymateb i'r profiadau penodol a grybwyllwyd gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y mater hwn a'r rheoliadau drafft syn deillio ohonynt; ac
· yn y cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ragor o fanylion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r cynlluniau i archwilio gwelliannau i'r trethi annomestig, a chael gwybod a fydd cyfle i'r deisebydd gyflwyno sylwadau ynglŷn â hyn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am sylwadau gan y deisebydd; a
· gofyn am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am y broses ar gyfer penderfynu lefelau cymhorthdal unigol ar gyfer 2017-18, a gofyn a fydd cyfle i'r deisebydd gyflwyno ei sylwadau ynglŷn â hyn.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae e'n adnabod y deisebwyr, ond nid oes ganddo gysylltiad â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn dilyn cadarnhad yn y gyllideb ddrafft y bydd cyllid ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei gynnal yn 2017-18, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cwrdd â'r deisebwyr yn rhinwedd ei swydd fel yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Dwyrain Abertawe.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a godwyd yn y ddeiseb yn dilyn ei gyfarfod diweddar gyda'r deisebwyr.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae e'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am sylwadau gan y deisebydd ynglŷn â'r ymatebion manwl a gafwyd gan Lywodraeth Cymru; a
· gofyn am farn y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i rannu'r ymateb a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r deisebydd ac i ofyn am ei farn cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am ragor o fanylion ynglŷn â lleoliad posibl unrhyw orsaf newydd yng Ngabalfa, yn ogystal â sut a phryd y bydd cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ceisio cael copi o gasgliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ofal iechyd yn ardal Ffestiniog er mwyn llywio rhagor o drafodaeth gan y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon; ac
· ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.